Oriel 2018 – 2020

2018 – 2020 Cyngerdd ym Mhenarth 29 Chwefror 2020    

 Côr Godre’r Garth a Chôr y Cwm 15 Rhagfyr 2019

   
Sefydlwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 er mwyn denu pobl o’r un anian i ddod ynghyd er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn ardal Pontypridd. Erbyn hyn mae gan Gôr Godre’r Garth dros 50 o aelodau gydag ystod oedran o 16 i dros 70. Ers bron i ddeugain mlynedd mae’r côr wedi blasu pob math o brofiadau a llwyddiannau ac wedi teithio i bedwar ban byd. Am wyth mlynedd ar hugain bu hynny dan arweiniad meistrolgar Wil Morus Jones, a lwyddodd i sefydlu côr a ddaeth i’r brig o’r cychwyn cyntaf. Wedi ymddeoliad Wil, trosglwyddwyd yr awenau dros dro i Gareth Williams, is-arweinydd dihafal y côr, cyn i Eilir Owen Griffiths, un o gerddorion cyfoes mwyaf heintus a deinamig Cymru ymuno fel arweinydd yn 2003 hyd 2014 pan drosglwyddodd yr awenau i gerddor dawnus ac addawol arall, Steffan Huw Watkins. Yn gefn i’r holl Gôr mae’r cyfeilydd amryddawn, Branwen Evans ac nid oes pall ar ei thalent gerddorol ar y piano. Un o uchafbwyntiau’r calendr cystadlu yw’r Eisteddfod Genedlaethol ac mae’r côr wedi bod yn fuddugol sawl gwaith ar y gystadleuaeth i gorau dros 45 mewn nifer. Cafwyd llwyddiant hefyd dros Glawdd Offa wrth i’r côr ddod yn geffyl blaen yng Ngŵyl Gerddorol Cheltenham 2011 a chipio’r Cwpan Aur fel Côr yr Ŵyl. Yng Ngŵyl Gorawl Caerdydd 2019 enillodd Steffan Watkins wobr Arweinydd yr Ŵyl.

9 Mehefin Ymarfer Agored

Steffan Watkins - Arweinydd yr Ŵyl Steffan Watkins yn ennill gwobr Arweinydd yr Ŵyl yng Ngŵyl Gorawl Rhyngwladol Caerdydd Ebrill 2019

Cystadlu yn yr Ŵyl Gorawl Gŵyl Gorawl Rhyngwladol Caerdydd Ebrill 2019

Eglwys St Cross Winchester, 2 Tachwedd 2019

Cyngerdd tuag at Lesotho yn y Gadeirlan Babyddol, Caerdydd, Mawrth 2019

 
Cyngerdd 2019
 

 
Canu carolauCanu Carolau 8 Rhagfyr 2018
    Parti Ponty 2018Parti Ponty 2018     Cyngerdd 16 Rhagfyr 2018  

Efail Isaf 2017 Cyngerdd 3 Côr Efail Isaf 19 Mawrth 2017