Côr Godre’r Garth
Arweinydd: Steffan Watkins
Cyfeilydd: Branwen Evans
Ymunwch â ni! |
Perfformiad o Cadwyn 50 Côr Godre’r Garth 2 Tachwedd 2024
Catrin Dafydd a Richard Vaughan,
awdur a chyfansoddwr Cadwyn yr Hanner Canrif
Eisteddfod Pontypridd 2024
Noson Lansio Grogg Robin McBryde
yng Nghlwb Rygbi Cilfynydd 8 Mawrth 2024
Cyngerdd Nadolig yn y Tabernacl, Efail Isaf. 17 Rhagfyr 2023
Ffair Nadolig 2023 Neuadd y Pentref, Efail ISaf
Eisteddfod y Rhondda Tachwedd 2023
Cyngerdd yn Ysgol y Cymer Hydref 2023
Côr Rhuthun, Côr Godre’r Garth, Côr Plant y Rhondda a’r unawdydd Owain Rowlands Yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Hydref 2023
Dechrau Canu Canmol o Tabernacl Efail Isaf. Hydref 2023
Cyngerdd Llanbradach 17 Mehefin 2023
Gŵyl Pan-Geltaidd Carlow Ebrill 2023
Cyngerdd yn Eglwys Groesfaen, Dydd Gŵyl Dewi 2023
Cyngerdd Nadolig yn y Tabernacl, Efail Isaf, 18 Rhagfyr 2022
Ffair Nadolig Efail Isaf Tachwedd 2022
Cyngerdd Gosport 2 Hydref 2022
Sefydlwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 er mwyn denu pobl o’r un anian i ddod ynghyd er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn ardal Pontypridd. Erbyn hyn mae gan Gôr Godre’r Garth dros 50 o aelodau gydag ystod oedran o 16 i dros 70.
Ers bron i ddeugain mlynedd mae’r côr wedi blasu pob math o brofiadau a llwyddiannau ac wedi teithio i bedwar ban byd. Am wyth mlynedd ar hugain bu hynny dan arweiniad meistrolgar Wil Morus Jones, a lwyddodd i sefydlu côr a ddaeth i’r brig o’r cychwyn cyntaf. Wedi ymddeoliad Wil, trosglwyddwyd yr awenau dros dro i Gareth Williams, is-arweinydd dihafal y côr, cyn i Eilir Owen Griffiths, un o gerddorion cyfoes mwyaf heintus a deinamig Cymru ymuno fel arweinydd yn 2003 hyd 2014 pan drosglwyddodd yr awenau i gerddor dawnus ac addawol arall, Steffan Huw Watkins.
Yn gefn i’r holl Gôr mae’r cyfeilydd amryddawn, Branwen Evans ac nid oes pall ar ei thalent gerddorol ar y piano. Un o uchafbwyntiau’r calendr cystadlu yw’r Eisteddfod Genedlaethol ac mae’r côr wedi bod yn fuddugol sawl gwaith ar y gystadleuaeth i gorau dros 45 mewn nifer. Cafwyd llwyddiant hefyd dros Glawdd Offa wrth i’r côr ddod yn geffyl blaen yng Ngŵyl Gerddorol Cheltenham 2011 a chipio’r Cwpan Aur fel Côr yr Ŵyl. Yng Ngŵyl Gorawl Caerdydd 2019 enillodd Steffan Watkins wobr Arweinydd yr Ŵyl Gŵyl Gorawl Rhyngwladol Caerdydd Ebrill 2019