Oriel 2018 – 2020

2018 – 2020 Cyngerdd ym Mhenarth 29 Chwefror 2020    

 Côr Godre’r Garth a Chôr y Cwm 15 Rhagfyr 2019

   
Sefydlwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 er mwyn denu pobl o’r un anian i ddod ynghyd er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn ardal Pontypridd. Erbyn hyn mae gan Gôr Godre’r Garth dros 50 o aelodau gydag ystod oedran o 16 i dros 70. Ers bron i ddeugain mlynedd mae’r côr wedi blasu pob math o brofiadau a llwyddiannau ac wedi teithio i bedwar ban byd. Am wyth mlynedd ar hugain bu hynny dan arweiniad meistrolgar Wil Morus Jones, a lwyddodd i sefydlu côr a ddaeth i’r brig o’r cychwyn cyntaf. Wedi ymddeoliad Wil, trosglwyddwyd yr awenau dros dro i Gareth Williams, is-arweinydd dihafal y côr, cyn i Eilir Owen Griffiths, un o gerddorion cyfoes mwyaf heintus a deinamig Cymru ymuno fel arweinydd yn 2003 hyd 2014 pan drosglwyddodd yr awenau i gerddor dawnus ac addawol arall, Steffan Huw Watkins. Yn gefn i’r holl Gôr mae’r cyfeilydd amryddawn, Branwen Evans ac nid oes pall ar ei thalent gerddorol ar y piano. Un o uchafbwyntiau’r calendr cystadlu yw’r Eisteddfod Genedlaethol ac mae’r côr wedi bod yn fuddugol sawl gwaith ar y gystadleuaeth i gorau dros 45 mewn nifer. Cafwyd llwyddiant hefyd dros Glawdd Offa wrth i’r côr ddod yn geffyl blaen yng Ngŵyl Gerddorol Cheltenham 2011 a chipio’r Cwpan Aur fel Côr yr Ŵyl. Yng Ngŵyl Gorawl Caerdydd 2019 enillodd Steffan Watkins wobr Arweinydd yr Ŵyl.

9 Mehefin Ymarfer Agored

Steffan Watkins - Arweinydd yr Ŵyl Steffan Watkins yn ennill gwobr Arweinydd yr Ŵyl yng Ngŵyl Gorawl Rhyngwladol Caerdydd Ebrill 2019

Cystadlu yn yr Ŵyl Gorawl Gŵyl Gorawl Rhyngwladol Caerdydd Ebrill 2019

Eglwys St Cross Winchester, 2 Tachwedd 2019

Cyngerdd tuag at Lesotho yn y Gadeirlan Babyddol, Caerdydd, Mawrth 2019

 
Cyngerdd 2019
 

 
Canu carolauCanu Carolau 8 Rhagfyr 2018
    Parti Ponty 2018Parti Ponty 2018     Cyngerdd 16 Rhagfyr 2018  

Efail Isaf 2017 Cyngerdd 3 Côr Efail Isaf 19 Mawrth 2017

Oriel 2000 – 2005

Eisteddfod
Côr Buddugol Cystadleuaeth
Côr Cymysg dros 45 o leisiau
Eisteddfod Eryri 2005

Eisteddfod 05

 

Eisteddfod 05

Dechrau Canu Dechrau Canmol, Dydd Nadolig 2005

Eisteddfod Casnewydd 2004

 

Eilir
Côr Buddugol Eisteddfod Casnewydd 2004

 

Teledu 05
Rhaglen Margaret Williams Hydref 2005

Salem Llandeilo 2004
Cyngerdd ym Mhentref Salem ger Llandeilo, 10 Rhagfyr 2004
gyda Llew Davies
Eilir

Eilir
Owen-Griffiths, Arweinydd
Eisteddfod Casnewydd 2004

Côr Godre'r Garth

Noson Dathlu 30 Mlynedd
Côr Godre’r Garth

Nos Sadwrn, 6 Tachwedd 2004
Gwesty Treftadaeth y Rhondda

 

Kinsale iwerddon 2004
Cyngerdd Kinsale,
Iwerddon, 11 Ebrill 2004

Stadiwm 2004
Côr Godre’r Garth a Chôr Meibion Dunvant yn canu
yn y Stadiwm Genedlaethol cyn gêm Cymru v Eidal 27 Mawrth 2004

Eisteddfod
Côr Godre’r Garth ddaeth yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol
Meifod Maldwyn 2003 o dan arweinyddiaeth
Eilyr Griffiths gyda Branwen Evans yn cyfeilio

 

Nadolig 2002

Côr
Godre’r Garth yng Nghyngerdd Pontypridd, Rhagfyr 2002

 

 

Côr 2001
Cyngerdd Caerffili 2001

1999

Côr yn 1999

Oriel 2006 – 2007

BT

Siec gan BT ar gyfer y piano newydd 23 Medi 2007

Crwydryn Llon

Y Crwydryn Llon Eisteddfod Sir Fflint 2007

Eilir 2007

Eilir gyda’r gwpan unwaith eto yn 2007

Langollen 2007
Eisteddfod Llangollen 2007

Llanrhaeadr 25 Chwefror 2007
Gwasanaeth Boreol Llanrhaeadr 25 Chwefror 2007

Côr Godre'r Garth ar DCDC
Dechrau Canu Dechrau Canmol Tachwedd 2007

Cyngerdd Nadolig 2007
Cyngerdd Nadolig 2007

Noson Arbennig
Côr Godre’r Garth a Chôr CF1

24 Tachwedd 2006

Tabernacl, Caerdydd 24 Tachwedd 2006

Cyngerdd Nadolig 2006
Cyngerdd Nadolig 2006

Yn Stadiwm y Mileniwm 25 Tachwedd 2006
Gêm Cymru v Seland Newydd

Gêm Rygbi Seland Newydd

Stadiwm

Rygbi

Rygbi

Ymarfer >> Fideo

Requiem Brian Hughes

Cyngerdd Requiem Brian Hughes
Caerfyrddin 1 Ebrill 2006

Pontypridd 27 Mawrth 2006

Cyngerdd ym Mhontypridd 27 Mawrth 2006

Requien 1 Ebrill 2006

Rhys Meirion

Ennill yn Eisteddfod Abertawe 2006

Eisteddfod 2006

Eilyr

 

 

Noson Lawen Mehefin 2006
Noson Lawen Mehefin 2006

 

Cyngerdd Nadolig 2006
Cyngerdd Nadolig 2006

 

Oriel 2008 – 2009

 

 

Neuadd Dewi Sant
Carmina Burana, Neuadd Dewi Sant, 24 Tachwedd 2009

Dathlu 35
Cyngerdd Dathlu 35 gyda Aled Wyn Davies a Dave Danford. 31 Hydref 2009

Cacen

Cacen 35 . Wil ag Eilir

Côr Godre'r Garth

Cwpan Eilir 2009 Medal Coffa Eilir
Eilir yn dathlu
yn Eisteddfod Bala 2009
Medal Goffa Morfydd Vaughan Evans i arweinydd y côr budugol 2009

Eisteddfod 2009
Ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion 2009

Cyngerdd Mehefin 2009

 

Cyngerdd Nadolig 2009

 

Taith Liedertafel Moosburg 24 – 28 Mawrth 2008

Cyngerdd 27 Mawrth 2008

Cyngerdd Côr Liedertafel Moosburg gyda Chôr Godre’r Garth
Yn Eglwyd Dewi Sant 27 Mawrth 2008

 

 

Cyngerdd Pasg 2008

Côr Godre’r Garth
ynghyd â Chôr y
Moosburger Liedertafel
Bafaria, Yr Almaen

Offeren Schubert yn G fwyaf
a darnau amrywiol eraill

Unawdwyr
Catrin Aur (Soprano)
Wyn Davies (Tenor)
Iwan Parry (Baritôn)

Eglwys Dewi Sant
St Andrew’s Crescent
Caerdydd

Nos Iau 27 Mawrth 2008
7:30pm

Tocynnau £6 / £4

e-bost

 

Côr Godre’r Garth yn croesawu’r Moosburger Liedertafel nôl i Gymru

Amser Pasg bydd Côr Godre’r Garth yn croesawu côr o’r Almaen nôl i Gymru. Bydd y Moosburger Liedertafel, côr cymysg o ardal Moosburg, Bafaria yn cyrraedd ar ddydd Llun y Pasg ac yn treulio wythnos gydag aelodau o Gôr Godre’r Garth a’u teuluoedd. Uchafbwynt yr wythnos fydd perfformiad o Offeren Schubert yn G gyda’r ddau gôr yn perfformio’r darn ar y cyd yn Lladin. Cynhelir y perfformiad yn Eglwys Dewi Sant, St Andrew’s Crescent, Caerdydd, am 7:30pm nos Iau 27 Mawrth 2008.

Mae Godre’r Garth eisoes yn brysur gyda’r paratoadau: “Cawsom ni groeso mor wresog ym Mafaria amser Pasg 2006 fel ein bod ni’n awyddus i sicrhau fod ymweliad yr Almaenwyr â Chymru’n un bythgofiadwy”, meddai David Davies, cadeirydd y côr. “Rydym ni wrthi’n trefnu tripiau i’r Almaenwyr ynghyd â sicrhau cyngerdd llwyddiannus ar y nos Iau. Ar y nos Wener byddwn yn cynnal noson gymdeithasol o dwmpath a chanu.”

Bydd Eilir Owen Griffiths, arweinydd Godre’r Garth, yn ymweld â Bafaria ar benwythnos 7-9 Mawrth er mwyn cynnal cyfres o ymarferion yn barod ar gyfer y perfformiad ar y cyd. “Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Moosburg”, meddai Eilir, “ond braidd yn betrusgar am gynnal ymarfer yn Almaeneg! Bydd y ddau gôr yn canu ynghyd felly nod y penwythnos yn Moosburg yw sicrhau fod y perfformiad yn asio’n llwyddiannus oherwydd mae modd dehongli’r gwaith yn wahanol o ran tempo a naws. Am mai fi fydd yn arwain y perfformiad ar y cyd, mae angen sicrhau fod pawb mewn cytgord.”

Mae’r cysylltiad rhwng Godre’r Garth a chôr Moosburg yn dyddio nôl i ddechrau’r wythdegau pan ddaeth y ddau gôr at ei gilydd am y tro cyntaf. Dyma fydd ymweliad cyntaf yr Almaenwyr i Gymru ers dechrau’r wythdegau, felly bydd yn gyfle i ail gwrdd â hen ffrindiau ac i ddod i adnoabod y llu o aelodau newydd sydd wedi ymuno â’r ddau gôr ers hynny. Roedd rhai o aelodau’r ddau gôr heb eu geni pan sefydlwyd y cysylltiad.

 

 

Cyngerdd Nadolig 21 Rhagfyr 2008

Oriel 2010

 

 

Cyngerdd Moeze
Cyngerdd Moeze, Hydref 2010

Cyngerdd 26 Hydref

Gorffennwyd

Cyngerdd ‘Gorffennwyd’ 25 Ebrill 2010

Gêm Cymru v Ffrain 2010
Canu yn Stadiwm y Mileniwm 26 Chwefror 2010

 

Gogwydd corawl ar stori’r croeshoeliad

Bydd Côr Godre’r Garth o ardal Pontypridd yn cyflwyno perfformiad unigryw o waith eu harweinydd Eilir Owen-Griffiths – Gorffennwyd – yng Nghapel y Tabernacl, Efail Isaf ar Nos Sul 25 Ebrill 2010 am 7.30pm.

Cantata fodern yn seiliedig ar y Pasg ac sy’n rhoi gogwydd newydd ar stori’r croeshoeliad yw ‘Gorffennwyd’. Fe’i hysgrifennwyd yn wreiddiol pan oedd Eilir Owen-Griffiths yn astudio yn Pella, Iowa yn 2001 ar gyfer criw o ffrindiau a Chôr Siambr Central College Iowa. Mae’r gwaith yn gyfuniad o eiriau crefftus Norman Clos-Parry a dyfyniadau gwreiddiol o’r Beibl.

Yn ymuno â Chôr Godre’r Garth ar gyfer y perfformiad ar 25 Ebrill fydd cerddorfa siambr a’r unawdwyr canlynol: Robyn Lyn (rhan Iesu); Melissa Henry (rhan Mair); Hedd Owen Griffiths (Pilat); Llew Davies (Jwdas); Ifan Gwilym-Jones (Pedr) a Catrin Heledd (Llefarydd).

Meddai’r arweinydd Eilir Owen-Griffiths: “Cantata fodern yw hi sy’n dehongli hanes y croeshoeliad trwy lygaid nifer o gymeriadau amlwg o’r stori. Mae’n dilyn yn bennaf yn yr arddull sioe gerdd gydag elfennau o’r clasurol, roc a jazz hefyd yn britho’r gwaith, felly bydd rhywbeth at ddant pawb gobeithio.

 “Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn o gael y cyfle i berfformio y gwaith yma eto gyda chôr sydd o leiaf bedair gwaith yn fwy na’r un a ganodd y gwaith yn wreiddiol draw yn America, ac yn sicr bydd yn noson o fwynhad i’r gynulleidfa.”

Pris tocynnau yw £7 gyda phris gostyngol o £5.00. Am fwy o wybodaeth ewch i www.corgodrergarth.org

 

 

CD

y
Côr

CD Côr Godre'r Garth

Ar
Werth

£5.00

 

Oriel 2011 – 2012

 

2012 Penarth

 

Cyngerdd gyda Côr Godre’r Garth a Band Dinas Caerdydd

Perfformiad Prydeinig cyntaf o waith cyffrous i fand pres, côr ac organ –“Coro Angelicus”
Bydd Band Dinas Caerdydd (Melingruffydd), a Chôr Godre’r Garth yn perfformio gyda’i gilydd

yn Eglwys y Drindod Penarth
ar nos Sul, 16 Rhagfyr 2012 am 7.30pm.

Uchafbwynt y cyngerdd fydd y perfformaid Prydeinig cyntaf o’r gwaith cyffrous “Coro Angelicus”. Wedi ei gyfansoddi gan Eilir Owen Griffiths ar gyfer Côr Godre’r Garth, mae’r darn wedi ei osod ar gyfer band pres, côr, ac organ.
Mae’r darn yn cwmpasu rhai o atgofion gorau Eilir yn ystod y cyfnod y bu’n arwain y côr, rhwng 2003 a’r presennol.
Hefyd yn ystod y cyngerdd, bydd y band (arweinydd Gareth Ritter) a’r côr (arweinydd Eilir Owen Griffiths) yn perfformio nifer o ddarnau unigol, yn ogystal a threfniant o “ Zadok the Priest” i fand achôr.Mae’r band a’r côr yn enwog yn eu meysydd penodol, ac wedi ennill sawl cystadleuaeth drwy Phrydain, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae hi’n argoeli i fod yn noson fythgofiadwy, felly prynwch eich tocynnau yn gynnar.
Mae’r tocynnau (pris £8) ar gael gan aelodau’r côr, aelodau’r band,
neu drwy gysylltu â:Côr: Rhian Roberts : corgodrergarth@gmail.com

 

Gwyl Gorawl Gogledd Cymru
Tlws Gwŷl Gorawl Gogledd Cymru
Ennill yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru, Hydref 2012

CD 2011

Cyhoeddwyd CD newydd Côr Godre’r Garth yn Rhagfyr 2011

Ewch i recordiau Sain >>> Sain

Rhaglen Nia Roberts Radio Cymru

CD newydd yn ddathliad o hoff atgofion arweinydd
gyda Chôr Godre’r Garth

Gorffennwyd Penybont
Cyngerdd Tabernacl, Penybont 29 Ebrill 2012

Gorffennwyd
Gorffennwyd – Eilir Owen-Griffiths

Lansio CD

Bydd Côr Godre’r Garth, côr cymysg o ardal Pontypridd, yn lansio CD newydd yn y gyngerdd Nadolig blynyddol yng Nghapel Tabernacl, Efail Isaf ar nos Sul, 18 Rhagfyr am 7.00 o’r gloch.

Mae’r CD Coro Angelicus yn cynnwys detholiad o ffefrynnau’r côr a’r perfformiad cyntaf o waith bywiog a hudolus gan Eilir Owen Griffiths sy’n cwmpasu rhai o’i hoff atgofion gyda’r côr ers iddo gymryd yr awenau fel arweinydd yn 2003.

Mae naw symudiad yn y gwaith Coro Angelicus (Côr o Angylion)sy’n cynnwys Ymdeithgan Angel, a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan Eilir i’w wraig ar ddiwrnod eu priodas, pan ganodd y côr yn y gwasanaeth. Mae Disgynnodd wedi ei gyfansoddi mewn arddull werinol, yn adlais o’r holl alawon gwerin a ganwyd ar hyd y blynyddoedd. Cyfansoddwyd prif thema Exaudi Nos – Clyw Ni un noson braf pan oedd y côr ar daith yn La Rochelle yn 2010. I orffen y gwaith ceir trefniant cynhyrfus o Sanctus, i gofio’r troeon y bu’r côr yn canu yn Stadiwm y Mileniwm cyn gêmau rygbi rhyngwladol

Mae’r CD, sydd hefyd yn cynnwys y côr yn canu clasuron gan Brahms, Mendelssohn, Bruckner, Schubert a pherfformiad pwerus o Sadoc Ŵr Duw gan Handel, yn binacl ar flwyddyn lawn a chyffrous iawn. Ymysg yr uchafbwyntiau cafwyd y wefr o berfformio première o waith Eilir, Requiem, yng Ngerddi Aberglasne gyda Bryn Terfel ac Wynne Evans yn unawdwyr. Cafwyd llwyddiant hefyd dros Glawdd Offa wrth i’r côr ddod yn geffyl blaen yng Ngŵyl Gerddorol Cheltenham 2011 a chipio’r Gwpan Aur fel Côr yr Ŵyl

Mae hefyd wedi bod yn flwyddyn brysur i Eilir Owen Griffiths a benodwyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fis Medi. Mae Eilir, sy’n gweithio fel Tiwtor a Threfnydd Diwylliannol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn un o arweinyddion corawl mwyaf deinamig Cymru ac wedi ennill nifer o wobrau fel cyfansoddwr a gyda Chôr Godre’r Garth, Côr CF1 a Chôr y Drindod Dewi Sant.

Mae’n edrych ymlaen yn eiddgar at lansio CD newydd Côr Godre’r Garth a pherfformio rhannau o’r gwaith Coro Angelicus yn y gyngerdd Nadolig ar 18 Rhagfyr.

“Fel côr rydan ni wedi bod yn trafod rhyddhau CD newydd ers sbel rŵan ac fe benderfynon ni mai dyma’r flwyddyn i wireddu hynny, a dwi wrth fy modd hefo’r cynnyrch gorffenedig. Mae Côr Godre’r Garth yn gôr arbennig ac ymroddedig iawn â phawb yn dod ymlaen yn dda  a dwi’n ei deimlo’n fraint enfawr fod yr aelodau wedi cytuno i berfformio’r gwaith Coro Angelicus gafodd ei ysbrydoli gan fy nghyfnod efo’r côr ers i mi ymuno fel arweinydd.

Er nad gwaith Nadoligaidd yw Coro Angelicus, ceir ynddo’r garol adnabyddus Noël, sy’n dod ag atgofion melys i mi o’r cyngherddau Nadolig blynyddol rydan ni yn eu cynnal yng Nghapel y Tabernacl yn Efail Isaf a bydd perfformio rhannau o’r gwaith yn y gyngerdd eleni yn brofiad gwefreiddiol. Dwi’n gobeithio fod rhywbeth at ddant cerddorol pawb ar y CD yma.”

Ychwanegodd Meilyr Hedd, Cadeirydd Côr Godre’r Garth: “Mae Eilir wedi llwyddo i adeiladu ar gryfderau’r côr ac yn gyson yn ein herio i gyrraedd tir hyd yn oed yn uwch gyda’i syniadau newydd a’i ddarnau cyffrous.  Mae’r côr wedi mwynhau’r profiad o ymarfer a recordio ar gyfer y CD ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y gyngerdd pan fydd yn cael ei lansio. Felly dewch yn llu i fwynhau perfformiadau ecsgliwsif o Coro Angelicus ac i brynu copïau fel anrhegion Nadolig perffaith!”

Recordiwyd Coro Angelicus ar label Sain a chyflwynir y CD er cof am aelod annwyl iawn o’r côr, Eric Davies.

Pris y CD yw £12.98.

Ewch i recordiau Sain >>> Sain

Cyngerdd Nadolig 2011

Cyngerdd Nadolig 18 Rhagfyr 2011

 

Y Cymro Rhagfyr 2011

Cheltenham Mai 2011

Ennill Côr yr Ŵyl yn Cheltenham 2011

 

Mae Côr Godre’r Garth yn gôr cymysg gyda 60 o aelodau. Mae’r côr yn ymarfer yn Efail Isaf, Pontypridd, a daw’r aelodau o ardaloedd Penybont, Caerdydd, y Rhondda a Chwm Rhymni yn ogystal â Thaf Elái.

Ffurfiwyd y côr yn 1974 gyda’r nod o hybu Cymreictod mewn ardal oedd, yr adeg honno, ar fin colli’r iaith yn llwyr. Denwyd nifer o ddysgwyr i rengoedd y Côr a bu’n fodd i nifer i loywi eu hiaith.

Bu’r côr yn llwyddiannus iawn yng nghystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol o’r cychwyn cyntaf ac i goroni’r llwyddiant derbyniodd yr arweinydd Medal Aur Clogau yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1985 a Medal Goffa Morfydd Vaughan Evans yn 2009.

Cyflwyna’r côr pob math o gerddoriaeth; caneuon traddodiadol, emynau, gweithiau newydd gan gyfansoddwyr Cymraeg a gweithiau operatig. Mae’r côr wedi cyflwyno nifer o weithiau cyflawn yn cynnwys y Meseia, Handel, Offeren y Credo, Mozart a’r Eleias, Mendelssohn, Gloria John Rutter.

Mae’r côr wedi ymddangos ar y teledu ac ar y radio yn rheolaidd. Cyflwynwyd cyngherddau led led Cymru a thramor gan gynnwys yr Almaen, Gwlad Belg, Llydaw yr Iwerddon, yr Eidal a Chatalonia. Hefyd mae’r côr wedi croesawu i Gymru nifer o gorau tramor yn cynnwys, yr Almaen, Lithuania ac America. Cynhelir y cyngherddau er budd elusennau lleol a chenedlaethol .

Danfonwch e-bost atom i gael mwy o wybodaeth neu trefnu cyngerdd i’r côr.

 

Oriel 2013 – 2014

Ynys Manaw

2014 Ramsey, Ynys Manaw

 

2014 Ynys Manaw

 

2014 Milntown, Ynys Manaw
2014 Milntown, Ynys Manaw

2014 Milntown

 

2014 Milntown

 

Cyngerdd 12 Ebrill 2014

Cyngerdd Aberystwyth 2013
Cyngerdd yn Aberystwyth Rhagfyr 2013

Aberystwyth

Cyngerdd Ynyshir 2013
Cyngerdd Ynyshir 2013

 

 

Cyngerdd Ynyshir

 

 

 

2013 Gwr Arfog

 

 

 

 

 

CD Dwfn Liwiau

Ymunwch â ni!
Ymarferion bob nos Sul
am 7:30 p.m.
Neuadd y Pentref,
Efail Isaf
manylion –

corgodrergarth@gmail.com

Côr Godre’r Garth

Buddugwyr Côr Cymysg dros 45 o leisiau: Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 ac Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 ac Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006 ac Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint 2007 ac Eisteddfod Genedlaethol Bala 2009

Taith lwyddiannus i Moosburg, Bafaria, Pasg 2006 ac i Ffrainc, Hydref 2010.

 

Eilir a Branwen

Mae Côr Godre’r Garth yn gôr cymysg gyda 60 o aelodau. Mae’r côr yn ymarfer yn Efail Isaf, Pontypridd, a daw’r aelodau o ardaloedd Penybont, Caerdydd, y Rhondda a Chwm Rhymni yn ogystal â Thaf Elái.

Ffurfiwyd y côr yn 1974 gyda’r nod o hybu Cymreictod mewn ardal oedd, yr adeg honno, ar fin colli’r iaith yn llwyr. Denwyd nifer o ddysgwyr i rengoedd y Côr a bu’n fodd i nifer i loywi eu hiaith.

Bu’r côr yn llwyddiannus iawn yng nghystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol o’r cychwyn cyntaf ac i goroni’r llwyddiant derbyniodd yr arweinydd Medal Aur Clogau yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1985 a Medal Goffa Morfydd Vaughan Evans yn 2009.

Cyflwyna’r côr pob math o gerddoriaeth; caneuon traddodiadol, emynau, gweithiau newydd gan gyfansoddwyr Cymraeg a gweithiau operatig. Mae’r côr wedi cyflwyno nifer o weithiau cyflawn yn cynnwys y Meseia, Handel, Offeren y Credo, Mozart a’r Eleias, Mendelssohn, Gloria John Rutter.

Mae’r côr wedi ymddangos ar y teledu ac ar y radio yn rheolaidd. Cyflwynwyd cyngherddau led led Cymru a thramor gan gynnwys yr Almaen, Gwlad Belg, Llydaw yr Iwerddon, yr Eidal a Chatalonia. Hefyd mae’r côr wedi croesawu i Gymru nifer o gorau tramor yn cynnwys, yr Almaen, Lithuania ac America. Cynhelir y cyngherddau er budd elusennau lleol a chenedlaethol .

Danfonwch e-bost atom i gael mwy o wybodaeth neu trefnu cyngerdd i’r côr.

Oriel 2015 – 2016

Cyngerdd 18 Rhagfyr 2016

Cyngerdd yn Rhuthun Rhagfyr 2016

Cyngerdd Rhuthun 3 Rhagfyr

Gosport Hydref 2016
Cyngerdd yn Gosport Medi 2016

Cyngerdd Y Fenni
Cyngerdd Y Fenni 7 Mai 2016

Cyngerdd Y Fenni 2016

Cyngerdd Llantrisant

Cyngerd Llantrisant 15 Ebrill 2016

Cyngerdd Nadolig 2015
Cyngerdd Nadolig 2015 gyda Côr y Cwm

Cyngerdd Nadolig 2015

Cyngerdd Nadolig

Eisteddfod 2015
Trydydd yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015

Cyngerdd dathlu 40
Cyngerdd Dathlu 40 – noson arbennig ar 6 Rhagfyr 2014

Cyngerdd Nadolig 2014

Côr Godre’r Garth yn croesawu’r deugain . . . ac arweinydd newydd

Bydd Côr Godre’r Garth, côr cymysg o ardal Pontypridd, yn dathlu 40 Mlwyddiant gyda chyngerdd fawreddog ar nos Sadwrn 6ed Rhagfyr, a hynny dan faton eu harweinydd newydd, Steffan Huw Watkins ynghyd â chyn-arweinwyr y Côr.

Cynhelir y gyngerdd yn Eglwys St Catherine’s yn y dref am 7.30pm a bydd y Côr yn perfformio gwaith Vivaldi, Gloria ynghyd â datganiad o waith newydd, Glan Rhondda a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y gyngerdd gan Eilir Owen-Griffiths a fu’n arwain y Côr am dros ddegawd tan iddo drosglwyddo’r awenau i Steffan eleni. Bydd Gareth Williams, aelod presennol ac is-arweinydd y Côr hefyd yn  ymuno gydag Wil Morus Jones, sylfaenydd ac arweinydd cyntaf Côr Godre’r Garth yn 1974 i arwain rhaglen o gerddoriaeth gyfarwydd o Gymru.

Yn ymuno â’r Côr ar y noson bydd yr unawdwyr Menna Cazel Davies, Olivia Gomez, Hannah Owen-Griffiths a Cherddorfa Sesiwn Cymru.

Cynhelir Cyngerdd Dathlu 40 Mlwyddiant Côr Godre’r Garth, Sadwrn 6 Rhagfyr, Eglwys St Catherine, Pontypridd, 7.30pm. 

Pris y tocynnau yw £12 (£10 i blant a phensiynwyr) – cysylltwch â 07837 007 076 neu corgodrergarth@gmail.com

 

Cyngerdd Nadolig

 

Sefydlwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 er mwyn denu pobl o’r un anian i ddod ynghyd er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn ardal Pontypridd. Erbyn hyn mae gan Gôr Godre’r Garth dros 65 o aelodau gydag ystod oedran o 16 i dros 70.

Ers bron i ddeugain mlynedd mae’r côr wedi blasu pob math o brofiadau a llwyddiannau ac wedi teithio i bedwar ban byd. Am wyth mlynedd ar hugain bu hynny dan arweiniad meistrolgar Wil Morus Jones, a lwyddodd i sefydlu côr a ddaeth i’r brig o’r cychwyn cyntaf. Wedi ymddeoliad Wil, trosglwyddwyd yr awenau dros dro i Gareth Williams, is-arweinydd dihafal y côr, cyn i Eilir Owen Griffiths, un o gerddorion cyfoes mwyaf heintus a deinamig Cymru ymuno fel arweinydd yn 2003 hyd 2014 pan drosglwyddodd yr awenau i gerddor dawnus ac addawol arall, Steffan Huw Watkins.

Yn gefn i’r holl Gôr mae’r cyfeilydd amryddawn, Branwen Evans ac nid oes pall ar ei thalent gerddorol ar y piano. Un o uchafbwyntiau’r calendr cystadlu yw’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn ystod y degawd diwethaf mae’r côr wedi bod yn fuddugol sawl gwaith ar y gystadleuaeth i gorau dros 45 mewn nifer. Cafwyd llwyddiant hefyd dros Glawdd Offa wrth i’r côr ddod yn geffyl blaen yng Ngŵyl Gerddorol Cheltenham 2011 a chipio’r Cwpan Aur fel Côr yr Ŵyl.

 

 

CD 2011

 

Y Garth

Oriel 2017 – 2018

Canu carolau
Canu Carolau 8 Rhagfyr 2018

 

Parti Ponty 2018
Parti Ponty 2018

 

Cyngerdd 16 Rhagfyr 2018

 

Efail Isaf 2017
Cyngerdd 3 Côr Efail Isaf 19 Mawrth 2017

 

 

 

 

 


Cyngerdd Nadolig gyda Côr y Cwm yn y Tabernacl Efail Isaf, Rhagfyr 2016

 

 

 

Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 2016

 

Cyngerdd yn Y Fenni, Mai 2016