Cyflwyniad

Côr Godre’r Garth

Arweinydd: Stefan Watkins

Cyfeilydd: Branwen Evans

Ymunwch â ni!
Ymarferion bob nos Sul am 7:30 p.m.
Neuadd y Pentref,
Efail Isaf

Ffurfiwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 gyda’r nod o hybu’r Gymraeg mewn ardal a oedd, yr adeg honno, wrthi’n brysur yn ailddarganfod ei Chymreictod. Roedd llawer o Gymry Cymraeg wedi symud i ardal Pontypridd o bob cwr o Gymru a daeth y rhai cerddorol yn eu plith ynghyd o dan arweiniad deheuig Wil Morus Jones. Athrawon oedd nifer o’r newydd-ddyfodiaid hynny, a bellach mae nifer o aelodau iau’r côr yn gynnyrch ysgolion Cymraeg yr ardal. Bu’r côr yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cynnig cyntaf yng Nghaerfyrddin yn 1974.

19741974

Mae’r côr yn dal i fwynhau cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi bod yn fuddugol ar y gystadleuaeth i gorau dros 45 ar bump achlysur – Casnewydd 2004, Y Faenol 2005, Abertawe 2006, Sir y Fflint 2007 a’r Bala yn 2009.


Bala 20092009

Hefyd, mae’r côr wedi ymddangos bedair gwaith yn arwain y canu yn Stadiwm y Mileniwm, gan gynnwys canu gyda Hayley Westenra a Katherine Jenkins cyn gêm Cymru a Seland Newydd yn 2006.

Rygbi 2006 Stadiwm y Mileniwm 2006

O’r cychwyn cyntaf, roedd Godre’r Garth yn mwynhau teithiau tramor, ac mae’r côr wedi ymweld â Fflorens, Iwerddon, Barcelona, Llydaw a Prâg ac amryw o lefydd eraill dramor a ledled Cymru. Mae cysylltiad gyda chôr Liedertafel Moosburg, Bafaria’n ymestyn nôl dros 25 o flynyddoedd pan fu aelodau’r ddau gôr yn aros gyda’i gilydd am y tro cyntaf ac yn cynnal cyngherddau. Yn ogystal â’r arweinydd roedd ymroddiad a brwdfrydedd Margaret Roberts, Cyfeilydd y côr am dros 20 mlynedd, yn allweddol i lwyddiant y cyngherddau, y cystadlu a’r teithiau. 

Amser Pasg 2006 oedd yr ymweliad diweddaraf, pan aeth Godre’r Garth ar daith lwyddiannus i Moosburg, gyda’n harweinydd presennol, Eilir Owen Griffiths. Daeth y criw o Moosburg nôl i aros yng Nghymru amser Pasg 2008 pan ganwyd Offeren Schubert yn G ar y cyd.

MoosburgMoosburg, Yr Almaen, 2006

Wedi wyth mlynedd ar hugain o wasanaeth diflino, penderfynodd Wil Morus Jones roi’r gorau i arwain Côr Godre’r Garth. Wedi ymddeoliad Wil, trosglwyddwyd yr awenau dros dro i Gareth Williams, is-arweinydd dihafal y côr, cyn i Eilir Owen Griffiths, un o gerddorion cyfoes mwyaf heintus a deinamig Cymru ymuno fel arweinydd yn 2003 hyd 2014 pan drosglwyddodd yr awenau i gerddor dawnus ac addawol arall, Steffan Huw Watkins.

Yn gefn i’r holl Gôr mae’r cyfeilydd amryddawn, Branwen Evans ac nid oes pall ar ei thalent gerddorol ar y piano. Un o uchafbwyntiau’r calendr cystadlu yw’r Eisteddfod Genedlaethol ac mae’r côr wedi bod yn fuddugol sawl gwaith ar y gystadleuaeth i gorau dros 45 mewn nifer. Cafwyd llwyddiant hefyd dros Glawdd Offa wrth i’r côr ddod yn geffyl blaen yng Ngŵyl Gerddorol Cheltenham 2011 a chipio’r Cwpan Aur fel Côr yr Ŵyl. Yng Ngŵyl Gorawl Caerdydd 2019 enillodd Steffan Watkins wobr Arweinydd yr Ŵyl.