Oriel 2008 – 2009

 

 

Neuadd Dewi Sant
Carmina Burana, Neuadd Dewi Sant, 24 Tachwedd 2009

Dathlu 35
Cyngerdd Dathlu 35 gyda Aled Wyn Davies a Dave Danford. 31 Hydref 2009

Cacen

Cacen 35 . Wil ag Eilir

Côr Godre'r Garth

Cwpan Eilir 2009 Medal Coffa Eilir
Eilir yn dathlu
yn Eisteddfod Bala 2009
Medal Goffa Morfydd Vaughan Evans i arweinydd y côr budugol 2009

Eisteddfod 2009
Ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion 2009

Cyngerdd Mehefin 2009

 

Cyngerdd Nadolig 2009

 

Taith Liedertafel Moosburg 24 – 28 Mawrth 2008

Cyngerdd 27 Mawrth 2008

Cyngerdd Côr Liedertafel Moosburg gyda Chôr Godre’r Garth
Yn Eglwyd Dewi Sant 27 Mawrth 2008

 

 

Cyngerdd Pasg 2008

Côr Godre’r Garth
ynghyd â Chôr y
Moosburger Liedertafel
Bafaria, Yr Almaen

Offeren Schubert yn G fwyaf
a darnau amrywiol eraill

Unawdwyr
Catrin Aur (Soprano)
Wyn Davies (Tenor)
Iwan Parry (Baritôn)

Eglwys Dewi Sant
St Andrew’s Crescent
Caerdydd

Nos Iau 27 Mawrth 2008
7:30pm

Tocynnau £6 / £4

e-bost

 

Côr Godre’r Garth yn croesawu’r Moosburger Liedertafel nôl i Gymru

Amser Pasg bydd Côr Godre’r Garth yn croesawu côr o’r Almaen nôl i Gymru. Bydd y Moosburger Liedertafel, côr cymysg o ardal Moosburg, Bafaria yn cyrraedd ar ddydd Llun y Pasg ac yn treulio wythnos gydag aelodau o Gôr Godre’r Garth a’u teuluoedd. Uchafbwynt yr wythnos fydd perfformiad o Offeren Schubert yn G gyda’r ddau gôr yn perfformio’r darn ar y cyd yn Lladin. Cynhelir y perfformiad yn Eglwys Dewi Sant, St Andrew’s Crescent, Caerdydd, am 7:30pm nos Iau 27 Mawrth 2008.

Mae Godre’r Garth eisoes yn brysur gyda’r paratoadau: “Cawsom ni groeso mor wresog ym Mafaria amser Pasg 2006 fel ein bod ni’n awyddus i sicrhau fod ymweliad yr Almaenwyr â Chymru’n un bythgofiadwy”, meddai David Davies, cadeirydd y côr. “Rydym ni wrthi’n trefnu tripiau i’r Almaenwyr ynghyd â sicrhau cyngerdd llwyddiannus ar y nos Iau. Ar y nos Wener byddwn yn cynnal noson gymdeithasol o dwmpath a chanu.”

Bydd Eilir Owen Griffiths, arweinydd Godre’r Garth, yn ymweld â Bafaria ar benwythnos 7-9 Mawrth er mwyn cynnal cyfres o ymarferion yn barod ar gyfer y perfformiad ar y cyd. “Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Moosburg”, meddai Eilir, “ond braidd yn betrusgar am gynnal ymarfer yn Almaeneg! Bydd y ddau gôr yn canu ynghyd felly nod y penwythnos yn Moosburg yw sicrhau fod y perfformiad yn asio’n llwyddiannus oherwydd mae modd dehongli’r gwaith yn wahanol o ran tempo a naws. Am mai fi fydd yn arwain y perfformiad ar y cyd, mae angen sicrhau fod pawb mewn cytgord.”

Mae’r cysylltiad rhwng Godre’r Garth a chôr Moosburg yn dyddio nôl i ddechrau’r wythdegau pan ddaeth y ddau gôr at ei gilydd am y tro cyntaf. Dyma fydd ymweliad cyntaf yr Almaenwyr i Gymru ers dechrau’r wythdegau, felly bydd yn gyfle i ail gwrdd â hen ffrindiau ac i ddod i adnoabod y llu o aelodau newydd sydd wedi ymuno â’r ddau gôr ers hynny. Roedd rhai o aelodau’r ddau gôr heb eu geni pan sefydlwyd y cysylltiad.

 

 

Cyngerdd Nadolig 21 Rhagfyr 2008