Arweinydd

Côr Godre’r Garth

Arweinydd: Steffan Watkins

Steffan Watkins

Daw Steffan yn wreiddiol o’r Fforest, Pontarddulais ond mae erbyn hyn wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgol Dewi Sant, Llanelli, ble mae ei fam yn athrawes feithrin, cyn symud i Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli ac yna i Brifysgol Caerdydd i astudio gradd cydanrhydedd yn y Gymraeg a Cherddoriaeth.

Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan allweddol o fywyd Steffan erioed ac mae wedi bod yn chwarae offerynnau ac yn canu ers cyn cof, gan ddechrau gwersi piano pan yn 5 oed, cyn dechrau chwarae’r trwmped tra yn yr ysgol gynradd. Mae ei ewythr, Huw Tregelles Williams, sy’n organydd ac yn gerddor arbennig wedi bod yn ddylanwad mawr arno, ac yn gefn wrth astudio a datblygu gyrfa gerddorol.

Mae Steffan wedi perfformio fel aelod o nifer helaeth o fandiau pres, chwyth, jazz a cherddorfeydd Gwasanaeth Gerdd Sir Gaerfyrddin a’r Tair Sir, yn ogystal â threulio amser yn chwarae i Fand Pres Porth Tywyn, ac yn chwarae a chanu mewn gwahanol fandiau o wahanol genre.  Mae canu corawl hefyd wedi chwarae rhan fawr yn ei fywyd wrth ganu mewn ensemblau, partïon a chorau tra yn yr ysgol gynradd ac uwchradd, cyn dechrau canu gyda Chôr Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, y Tair Sir, a threulio 5 mlynedd yn canu gyda Chôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.

Wedi symud i’r Brifysgol, yn ogystal â pherfformio gyda cherddorfeydd a chorau’r Adran Gerdd, roedd yn un o’r aelodau a sylfaenodd Aelwyd y Waun Ddyfal lle dechreuodd arwain Côr Meibion yr Aelwyd, ynghyd â chynorthwyo fel is-arweinydd. Mae erbyn hyn wedi trosglwyddo’r awenau ond yn dal i ganu gyda Cordydd, ac erbyn hyn yn arwain Côr Godre’r Garth.

Cyd-arweinydd:
Gareth Williams



Cyn-arweinydd:
Eilir Owen-Griffiths 2002 – 2014

Eilir medal 2009

Eilir Owen Griffiths

Mae Eilir Owen Griffiths wedi bod yn arwain Côr Godre’r Garth ers 2002. Heblaw am Godre’r Garth, mae hefyd yn arwain Côr CF1 a Chôr y Drindod.

Mae’n Diwtor Cerdd a Threfnydd Diwylliannol yng Ngholeg y Drindod, ac mae hefyd yn Gyfarfwyddwr Artistig Gŵyl Ddiwylliannol y Drindod, sydd â Gwobr Stuart Burrows yn ganolbwynt i’r Ŵyl. Ym mis Mehefin, arweiniodd ei dri chôr mewn perfformiad arbennig yno i ddathlu statws newydd Prifysgol y Drindod.

Yn gyn-fyfyriwr Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau yn y Drindod, aeth Eilir ymlaen i astudio ymhellach yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a derbyn MMus mewn cyfansoddi. Mae wedi denu tipyn o sylw gyda’i gyfansoddiadau, gan ennill nifer o wobrau, ac yn 2008 enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Gyda Chôr Godre’r Garth mae Eilir wedi ennill y Gystadleuaeth i Gorau Cymysg dros 45 o leisiau yn 2004, 2005, 2006, 2007 a 2009. Wrth i Godre’r Garth ennill yn y Bala yn 2009, Eilir oedd y cyntaf i ennill Medal Goffa Morfydd Vaughan Evans ar gyfer arweinydd y côr buddugol. Mae Eilir eisoes wedi sefydlu’i hunan fel un o arweinwyr mwyaf deinamig Cymru ac mae wedi ennill nifer o’r prif wobrau corawl gyda’i amrywiol gorau. Mae Eilir hefyd wedi arwain Cerddorfa Siambr Cymru, mae’n cyfrannu’n gyson at gyngherddau a digwyddiadau cerddorol ledled Prydain. Mae ei recordiadau’n cynnwys Côr CF1 (Sain) ac Y Gair (Kissan).

 

Cwpan Eilir 2009 Medal Coffa
Eilir yn dathlu
yn Eisteddfod Bala 2009
Medal Goffa Morfydd Vaughan Evans i arweinydd y côr budugol 2009

Eilir a Branwen

Eilir Owen-Griffiths a Branwen Evans

Cyn-arweinydd a Sylfaenydd 1974 – 2002

Wil Morus Jones
Wil Morus Jones