2014 Ramsey, Ynys Manaw
2014 Milntown, Ynys Manaw
Cyngerdd yn Aberystwyth Rhagfyr 2013
Cyngerdd Ynyshir 2013
Ymunwch â ni! corgodrergarth@gmail.com
|
Côr Godre’r GarthBuddugwyr Côr Cymysg dros 45 o leisiau: Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 ac Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 ac Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006 ac Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint 2007 ac Eisteddfod Genedlaethol Bala 2009 Taith lwyddiannus i Moosburg, Bafaria, Pasg 2006 ac i Ffrainc, Hydref 2010. |
Mae Côr Godre’r Garth yn gôr cymysg gyda 60 o aelodau. Mae’r côr yn ymarfer yn Efail Isaf, Pontypridd, a daw’r aelodau o ardaloedd Penybont, Caerdydd, y Rhondda a Chwm Rhymni yn ogystal â Thaf Elái. Ffurfiwyd y côr yn 1974 gyda’r nod o hybu Cymreictod mewn ardal oedd, yr adeg honno, ar fin colli’r iaith yn llwyr. Denwyd nifer o ddysgwyr i rengoedd y Côr a bu’n fodd i nifer i loywi eu hiaith. Bu’r côr yn llwyddiannus iawn yng nghystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol o’r cychwyn cyntaf ac i goroni’r llwyddiant derbyniodd yr arweinydd Medal Aur Clogau yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1985 a Medal Goffa Morfydd Vaughan Evans yn 2009. Cyflwyna’r côr pob math o gerddoriaeth; caneuon traddodiadol, emynau, gweithiau newydd gan gyfansoddwyr Cymraeg a gweithiau operatig. Mae’r côr wedi cyflwyno nifer o weithiau cyflawn yn cynnwys y Meseia, Handel, Offeren y Credo, Mozart a’r Eleias, Mendelssohn, Gloria John Rutter. |
Mae’r côr wedi ymddangos ar y teledu ac ar y radio yn rheolaidd. Cyflwynwyd cyngherddau led led Cymru a thramor gan gynnwys yr Almaen, Gwlad Belg, Llydaw yr Iwerddon, yr Eidal a Chatalonia. Hefyd mae’r côr wedi croesawu i Gymru nifer o gorau tramor yn cynnwys, yr Almaen, Lithuania ac America. Cynhelir y cyngherddau er budd elusennau lleol a chenedlaethol . Danfonwch e-bost atom i gael mwy o wybodaeth neu trefnu cyngerdd i’r côr. |