Cyngerdd Moeze, Hydref 2010
Cyngerdd ‘Gorffennwyd’ 25 Ebrill 2010
Canu yn Stadiwm y Mileniwm 26 Chwefror 2010
Gogwydd corawl ar stori’r croeshoeliadBydd Côr Godre’r Garth o ardal Pontypridd yn cyflwyno perfformiad unigryw o waith eu harweinydd Eilir Owen-Griffiths – Gorffennwyd – yng Nghapel y Tabernacl, Efail Isaf ar Nos Sul 25 Ebrill 2010 am 7.30pm. Cantata fodern yn seiliedig ar y Pasg ac sy’n rhoi gogwydd newydd ar stori’r croeshoeliad yw ‘Gorffennwyd’. Fe’i hysgrifennwyd yn wreiddiol pan oedd Eilir Owen-Griffiths yn astudio yn Pella, Iowa yn 2001 ar gyfer criw o ffrindiau a Chôr Siambr Central College Iowa. Mae’r gwaith yn gyfuniad o eiriau crefftus Norman Clos-Parry a dyfyniadau gwreiddiol o’r Beibl. Yn ymuno â Chôr Godre’r Garth ar gyfer y perfformiad ar 25 Ebrill fydd cerddorfa siambr a’r unawdwyr canlynol: Robyn Lyn (rhan Iesu); Melissa Henry (rhan Mair); Hedd Owen Griffiths (Pilat); Llew Davies (Jwdas); Ifan Gwilym-Jones (Pedr) a Catrin Heledd (Llefarydd). Meddai’r arweinydd Eilir Owen-Griffiths: “Cantata fodern yw hi sy’n dehongli hanes y croeshoeliad trwy lygaid nifer o gymeriadau amlwg o’r stori. Mae’n dilyn yn bennaf yn yr arddull sioe gerdd gydag elfennau o’r clasurol, roc a jazz hefyd yn britho’r gwaith, felly bydd rhywbeth at ddant pawb gobeithio. “Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn o gael y cyfle i berfformio y gwaith yma eto gyda chôr sydd o leiaf bedair gwaith yn fwy na’r un a ganodd y gwaith yn wreiddiol draw yn America, ac yn sicr bydd yn noson o fwynhad i’r gynulleidfa.” Pris tocynnau yw £7 gyda phris gostyngol o £5.00. Am fwy o wybodaeth ewch i www.corgodrergarth.org |
|