Côr
Godre'r Garth
Arweinydd:
Eilir Owen-Griffiths
Cyfeilydd:
Branwen Evans

Cyngerdd Côr Liedertafel Moosburg gyda Chôr Godre'r Garth
Yn Eglwyd Dewi Sant 27 Mawrth 2008

Tocynnau - e-bost
Côr Godre’r Garth
ynghyd â Chôr y
Moosburger Liedertafel
Bafaria, Yr Almaen
Offeren Schubert yn G fwyaf
a darnau amrywiol eraill
Unawdwyr
Catrin Aur (Soprano)
Wyn Davies (Tenor)
Iwan Parry (Baritôn)
Eglwys Dewi Sant
St Andrew’s Crescent
Caerdydd
Nos Iau 27 Mawrth 2008
7:30pm
Tocynnau £6 / £4
e-bost |
|
Côr Godre’r Garth yn croesawu’r Moosburger Liedertafel nôl i Gymru
Amser Pasg bydd Côr Godre’r Garth yn croesawu côr o’r Almaen nôl i Gymru. Bydd y Moosburger Liedertafel, côr cymysg o ardal Moosburg, Bafaria yn cyrraedd ar ddydd Llun y Pasg ac yn treulio wythnos gydag aelodau o Gôr Godre’r Garth a’u teuluoedd. Uchafbwynt yr wythnos fydd perfformiad o Offeren Schubert yn G gyda’r ddau gôr yn perfformio’r darn ar y cyd yn Lladin. Cynhelir y perfformiad yn Eglwys Dewi Sant, St Andrew’s Crescent, Caerdydd, am 7:30pm nos Iau 27 Mawrth 2008.
Mae Godre’r Garth eisoes yn brysur gyda’r paratoadau: “Cawsom ni groeso mor wresog ym Mafaria amser Pasg 2006 fel ein bod ni’n awyddus i sicrhau fod ymweliad yr Almaenwyr â Chymru’n un bythgofiadwy”, meddai David Davies, cadeirydd y côr. “Rydym ni wrthi’n trefnu tripiau i’r Almaenwyr ynghyd â sicrhau cyngerdd llwyddiannus ar y nos Iau. Ar y nos Wener byddwn yn cynnal noson gymdeithasol o dwmpath a chanu.”
Bydd Eilir Owen Griffiths, arweinydd Godre’r Garth, yn ymweld â Bafaria ar benwythnos 7-9 Mawrth er mwyn cynnal cyfres o ymarferion yn barod ar gyfer y perfformiad ar y cyd. “Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Moosburg”, meddai Eilir, “ond braidd yn betrusgar am gynnal ymarfer yn Almaeneg! Bydd y ddau gôr yn canu ynghyd felly nod y penwythnos yn Moosburg yw sicrhau fod y perfformiad yn asio’n llwyddiannus oherwydd mae modd dehongli’r gwaith yn wahanol o ran tempo a naws. Am mai fi fydd yn arwain y perfformiad ar y cyd, mae angen sicrhau fod pawb mewn cytgord.”
Mae’r cysylltiad rhwng Godre’r Garth a chôr Moosburg yn dyddio nôl i ddechrau’r wythdegau pan ddaeth y ddau gôr at ei gilydd am y tro cyntaf. Dyma fydd ymweliad cyntaf yr Almaenwyr i Gymru ers dechrau’r wythdegau, felly bydd yn gyfle i ail gwrdd â hen ffrindiau ac i ddod i adnoabod y llu o aelodau newydd sydd wedi ymuno â’r ddau gôr ers hynny. Roedd rhai o aelodau’r ddau gôr heb eu geni pan sefydlwyd y cysylltiad.
|
| |

Ymunwch â ni!
Ymarferion bob nos Sul am 7:30 p.m.
Neuadd y Pentref,
Efail Isaf
manylion -
e-bost
07739 731985 |
Côr Godre’r Garth
Buddugwyr Côr Cymysg dros 45 o leisiau: Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 ac Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 ac Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006 ac Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint 2007
Taith lwyddiannus i Moosburg, Bafaria, Pasg 2006. |
 |

Eilir Owen-Griffiths a Branwen Evans

Y Crwydryn Llon Eisteddofd Sir Fflint 2007

Eilir gyda'r gwpan unwaith eto yn 2007

Dechrau Canu Dechrau Canmol Tachwedd 2007

Cyngerdd Nadolig 2007

Eisteddfod Llangollen 2007

Gwasanaeth Boreol Llanrhaeadr 25 Chwefror 2007
| |
Mae Côr Godre'r Garth yn gôr cymysg gyda 60 o aelodau. Mae'r côr yn ymarfer yn Efail Isaf, Pontypridd, a daw'r aelodau o ardaloedd Penybont, Caerdydd, y Rhondda a Chwm Rhymni yn ogystal â Thaf Elái.
Ffurfiwyd y côr yn 1974 gyda'r nod o hybu Cymreictod mewn ardal oedd, yr adeg honno, ar fin colli'r iaith yn llwyr. Denwyd nifer o ddysgwyr i rengoedd y Côr a bu'n fodd i nifer i loywi eu hiaith.
Bu'r côr yn llwyddiannus iawn yng nghystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol o'r cychwyn cyntaf ac i goroni'r llwyddiant derbyniodd yr arweinydd Medal Aur Clogau yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyflwyna'r côr pob math o gerddoriaeth; caneuon traddodiadol, emynau, gweithiau newydd gan gyfansoddwyr Cymraeg a gweithiau operatig. Mae’r côr wedi cyflwyno nifer o weithiau cyflawn yn cynnwys y Meseia, Handel, Offeren y Credo, Mozart a'r Eleias, Mendelssohn, Gloria John Rutter.
Mae'r côr wedi ymddangos ar y teledu ac ar y radio yn rheolaidd. Cyflwynwyd cyngherddau led led Cymru a thramor gan gynnwys yr Almaen, Gwlad Belg, Llydaw yr Iwerddon, yr Eidal a Chatalonia. Hefyd mae'r côr wedi croesawu i Gymru nifer o gorau tramor yn cynnwys, yr Almaen, Lithuania ac America. Cynhelir y cyngherddau er budd elusennau lleol a chenedlaethol .
Danfonwch e-bost atom i gael mwy o wybodaeth neu trefnu cyngerdd i'r côr.
|
Cyngerdd Nadolig 2006

|
Ennill yn Eisteddfod Abertawe 2006

Noson Lawen Mehefin 2006
|