Barn Y Cyfansoddwr - Gareth Glyn "Mae na rhywbeth gan Wil Morus Jones. Mae o*n medru darllen fy meddwl i. Pan fydda i*n gwrando arnyn nhw mae o fel petawn i wedi hyfforddi'r côr bron iawn heblaw faswn i*n methu hyfforddi côr cystal a fo. Ond mae*r dehongliad yn union beth sydd yn fy mhen i bob tro. Mae o wedi digwydd mwy nag unwaith ac roeddwn i wrth fy modd ac o*n i*n teimlo*n freintiedig iawn fod nhw wedi gofyn i mi 'sgwennu darn (Y Gymraeg) ar gyfer côr mor fedrus a mor fawr sydd yn cynhyrchu swn cystal."
Y Côr Buddugol yn
Eisteddfod Rhyl 1985.
Cyfansoddiadau a Ysgrifennwyd ar gyfer y Côr
Parrot. Brian Hughes.1980 Deilen. Brian Hughes .1981 Ymadawiad Arthur. Shaun Davey 1983 Y Gymraeg. Gareth Glyn. geiriau Alan Llwyd. 1985 Hen Benillion. Dalwyn Henshall. 1986 Henffych Datws. Gareth Glyn. Geiriau Gwyn Thomas 1987 Llawenhewch! Gorfoleddwch! Gareth Blainey.1988
Missa Brevis. Dalwyn Henshall. 1990
Y CYFEILYDDION
Carey Williams Roedd Carey yn rhan o'r bwrlwm diwylliannol yn ardal Efail Isaf ac yng Nghapel Tabernacl yn ystod cyfnod ffurfio'r côr. Roedd ei ddawn fel cyfeilydd yn hanfodol i lwyddiant y côr. Ef fu'n cyfeilio ar y record gyntaf.
Margaret Roberts Mae Margaret wedi cyfeilio i'r côr ers 1978, ac wedi rhoi cyfeiliant gadarn a medrus ar pob math o offerynnau yn amrywio o 'Joanna' Neuadd Efail Isaf i'r Steinway ardderchog yn y Conservatoire Cerdd ym Marcelona.