< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >

Cyngerdd
yn
Moosburg
Pasg 1982

   Aeth y côr "draw dros y don" am y tro cyntaf ym Mehefin 1976 pryd y cafwyd taith fer ond prysur i Nantes yn Llydaw. Yn ystod Pasg 1981 daeth y daith tramor nesaf wedi i aelod o'r côr, Jane Harris (oedd yn athrawes Almaeneg),  ffurfio cysylltiad â "Leidertafel Moosburg" yn Bafaria. Daeth Côr Moosburg yn ôl i Gymru y Pasg canlynol, a bu cyfnewid eto yn ystod Pasg 1984 a Pasg 1986. Cafwyd croeso tywysogaidd gan y Bafariaid a phob aelod o'r côr yn dychwelyd i Gymry ychydig pwysau yn drymach wedi porthi'n helaeth ar bratwurst a weisbier. Eleni mae Côr Moosburg yn dathlu eu pen-blwydd yn 150 oed.
   Yn ystod haf 1983 aeth y côr yn ol i Lydaw i'r Wyl Ban-Geltaidd yn Lorient i gymeryd rhan ym mherfformiad cyntaf Symffoni Geltaidd Shaun Davey. Noson fythgofiadwy oedd honno yn sën y bombarde, y bagpipes ac "Ymadawiad Arthur" wrth gwrs. Bythgofiadwy hefyd oedd yr unig ffordd i ddisgrifio ein llety - un dorm ysgol anferth oedd yn diasbedain o swn drwy'r nos! Doedd braidd dim llenni ar y cawodydd, a'r tai bach mor anhygoel o aflan nes i'r merched - bythol ddiolch iddynt - mynnu mynd i brynu offer glanhau a rhoi sgwriad go iawn i'r lle. Hyd yn oed wedyn gwrthododd o leiaf un aelod o'r côr ddefnyddio'r "hole in one" drwy'r wythnos.

   Ar ein trydedd daith i Lydaw yn ystod Haf 1989 bu bron i'r daith orffen yn fuan wedi ychydig o rialtwch diniwed ar y noson gynta ond wedi hynny cafwyd taith ddymunol dros ben. Roedd ein cyngerdd ola yn Locranan yn gofiadwy oherwydd amynedd Margaret â rhyw degan o biano electrig a fenthycwyd gan grwp pop mewn bar yn y dre, a chyfieithiadau hynod gwreiddiol Steve Lloyd wrth gyflwyno Cadwyn gan egluro mai gwir ystyr Deryn y Bwn oedd rhywbeth fel Moliant i'r Ior!  Rydym yn dal i ddisgwyl y follten nefol! Un o ddyfeisiadau y byd modern ddaeth i gofnodi'r teithiau yma oedd y

Camcorder bondigrybwyll.
   Dychwelodd y côr i Ffrainc ac i'r brifddinas, Paris, ym mis Hydref 1990. Ymlaen wedyn i Wlad Belg gan geisio darganfod bedd Hedd Wyn ymysg mynwentydd anferth cyflafan 1914-18. Cael cyngerdd bendigedig wedyn gyda côr lleol Sain Nicholas.
   Wedi hynny buom yn Iwerddon (Hydref 1992), Yr Alban (Hydref 1993) a bu'r côr yn ninas Barcelona yng Nghatalonia adeg y Pasg 1994 lle cawsom gynulleidfaoedd niferus i bob un o'r cyngherddau a chroeso tywysogaidd gan wlad sy'n mynnu cadw ei hiaith a'i hunan-barch.

10

Tudalen Nesaf >