< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >

Wil yn derbyn Cwpan y Brif Gystadleuaeth Gorawl
a Medal Aur Clogau
yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl 1985 oddi wrth Rhys Jones

Wil Morus Jones


Yn frodor o Drefor, Llyn, aeth Wil Morus Jones i Ysgol Ramadeg Pwllheli ac yna yn fyfyriwr i'r Coleg Normal, Bangor. Daeth i lawr i'r de i ddysgu yn Ysgol Gynradd Trerobart, Ynysybwl. Yn ôl pob sôn dewisodd Ynysybwl oherwydd agosatrwydd Band Pres y Lady Windsor ac yntau wedi ei fagu yn swn Band Arian Trefor. Sefydlodd fand yn yr ysgol yn Ynysybwl, ar y pryd yr unig fand pres o'i fath mewn ysgol gynradd. Un o uchafbwyntiau'r cyfnod hwnnw oedd ymddangosiad y grwp pop, Ffaro  gyda Wil yn cyfeilio.
   Wedi cyfnod yn dysgu drwy'r Saesneg fe aeth i ddysgu Cymraeg i athrawon ac oedolion yn y Ganolfan Iaith yn Nhrefforest. Bu hwn yn gyfnod defnyddiol i Gôr Godre'r Garth am iddo, nid yn unig ddysgu

Cymraeg gloyw i nifer o athrawon, ond hefyd fe berswadiodd nifer ohonynt i ymuno â'r côr er mwyn ymarfer eu hiaith. Yn ystod ei gyfnod yn uwch-athro yn Ysgol Heol y Celyn fe baratodd nifer o raglenni teledu i ysgolion cynradd ar gyfer HTV. Bu hefyd yn un o sêr y cwis deledu "Cythraul Canu". Fe urddwyd "Wil o'r Garth" i'r Orsedd yn sgil llwyddiant y côr.
   Yn 1988 fe'i apwyntiwyd yn Brifathro Ysgol Gymraeg Santes Tudful ac yna yn dilyn cyfnod byr fel Ymgynghorydd i'r Awdurdod addysg eleni fe'i apwyntiwyd yn brifathro Ysgol Gymraeg Evan James, Pontypridd.

   Mae ei arweiniad cerddorol a chymdeithasol dros y blynyddoedd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y côr. Gall droi yr ymarfer mwyaf anodd a sych yn hwyl a does na ddim ymarfer yn mynd heibio heb i rhyw berl ddod o'i enau.
   Anodd yw gwybod sut i gydnabod cyfraniad Wil i'r côr; digon efallai yw dweud fod pawb sydd wedi bod yn aelod o Gôr Godre'r Garth ers 1974 yn hynod ddyledus iddo am gyflwyno i ni y fath amrywiaeth o gerddoriaeth (o Parrot i'r Meseia) mewn awyrgylch sydd ar unwaith yn ddisgybledig ag eto'n hwyliog.

8

Tudalen Nesaf >