< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >

Pedwar o gwpanau yn 1984

   Yn 1989 ymunodd y côr gyda nifer o gorau lleol eraill i ffurfio Côr Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990. Wil oedd y Côr-feistr ac roedd ganddo*r dasg o ddysgu gweithiau newydd gan Alun Hoddinott a Dalwyn Henshall a gweithiau cyfarwydd gan Rossini a Beethoven i gôr o 280. Cafwyd hwyl eithriadol yn ystod y ddwy flynedd y buom yn ymarfer yn Ystrad Mynach, ac mae nifer o bethau'n sefyll yn y cof: - y baswyr bron yn cynnig eu hunain ar gyfer yr "snip" er mwyn canu'r F uchel yn Symffoni Gorawl Beethoven; y merched yn fodlon gwneud unrhywbeth i*r arweinydd hudolus, Grant Llywelyn,  a sylwadau pwrpasol Wil wrth arwain y gymanfa ar y noson olaf, dim ond oriau ar ôl yr ymosodiad ar Kuwait.
   Bu Côr Godre'r Garth hefyd yn cefnogi Eisteddfodau lleol o bob math trwy dde Cymru. Cafwyd cryn lwyddiant mewn gwahanol Eisteddfodau Pantyfedwen yn

Ennill y Brif Gorawl am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn 1978

Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan a Phontrydfendigaid dros y blynyddoedd, a bu gwobrau hael yr eisteddfodau hyn yn gryn hwb i gyfrif banc y côr! Mae rhai aelodau o'r côr yn dioddef o hyd ar ôl y nosweithiau hwyr yn dilyn eisteddfodau Aberteifi! Bu'r cor hefyd yn cefnogi Eisteddfod Cwm Rhymni ac Eisteddfod y

Glowyr, Porthcawl. Mater o falchder i aelodau'r cor yw ein bod ni wedi cefnogi Eisteddfod y Glowyr ar sawl achlysur er ei bod hi'n anodd gwybod beth fydd dyfodol yr Wyl hon wedi tranc y diwydiant a roes fodolaeth iddi.

5

Tudalen Nesaf >