< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >

Y Côr yn 1977


Cipio'r Cwpan unwaith eto yn Eisteddfod Llangefni 1983.

   Fe ddaeth cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhan hanfodol o weithgareddau'r côr bob blwyddyn ar ôl y llwyddiant cyntaf . Enillwyd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth y Corau Gwledig yn eisteddfodau Bro Myrddin, Cricieth ag Aberteifi.
    Yna ym 1977, penderfynwyd rhoi cynnig ar y brif gystadleuaeth gorawl yn eisteddfod Wrecsam. Yr ail wobr ddaeth i ran Côr Godre'r Garth y flwyddyn honno, ond yng Nghaerdydd ym 1978 enillwyd prif wobr gorawl yr eisteddfod. Yna, gydag eithriad Eisteddfod Abertawe yn 1982, cipiodd y côr y wobr gyntaf bob blwyddyn hyd at 1985. Bu
*r côr yn cefnogi cyfansoddwyr Cymreig drwy gomisiynu gweithiau newydd i*w perfformio yn y gystadleuaeth. Fe alltudwyd y côr i Ynysybwl ar amryw Sul braf ym Mehefin a Gorffennaf i ymarfer campweithiau Brian Hughes, 'Parrot* a 'Deilen*. Yn sicr roedd

rhaid cael ymroddiad i ddysgu effeithiau arbennig cerddoriaeth modern wrth ganu am "Aderyn a hwnnw wedi bod yn baglu trwy botiau o baent"!
   Ymysg uchafbwyntiau'r cyfnod hynod lewyrchus hwn oedd sylwadau bythgofiadwy Gareth Glyn a oedd wedi gwirioni ar berfformiad y côr o'i ddarn

Cymru yn Eisteddfod Llangefni "Roedd bob marc yn ei le a dim bai o gwbwl ar y perfformiad", a dyfarnu Medal Aur y Clogau i Wil wedi i'r côr ennill yn Eisteddfod y Rhyl ym 1985. Yr ail wobr ddaeth i ran Côr Godre'r Garth yn Eisteddfodau Abergwaun, Porthmadog,  Casnewydd a De Powys.

4

Tudalen Nesaf >