|
|
|
|
|
|
Fe ddaeth cyflwyno cyngherddau hefyd yn rhan hwyliog o weithgareddau'r côr. Oherwydd cyfyngiadau teithio, bu'r rhan fwya o gyngherddau unigol y côr ar hyd corridor yr M4 yn Ne Cymru. Dros y blynyddoedd cafwyd cyngherdau yn Llangadog, Rhydaman, Pontarddulais, San Cler, Aberporth a Thí Ddewi i enwi dim ond rhai. Elwodd nifer o elusennau o barodrwydd y côr i gyflwyno cyngherddau heb godi tâl. Un o gynulleidfaoedd mwyaf y côr oedd yn Neuadd Albert, Llundain ar achlysur dathlu Dydd Gwyl Dewi yn 1979. Rhoddwyd cymeradwyaeth fyddarol gan y 7000 oedd yn bresennol i ddatganiad y côr o Dyn a Aned o Wraig ac fe ail-ganwyd rhan o'r gytgan gyda Band Pres Northop, Côr Meibion Pontardulais a Merched Uwchllyn i gyd o dan arweiniad Wil. Eithr ni anghofiwyd y Gogledd na'r Canolbarth, a bu teithiau'r Pasg i Wynedd a Chlwyd a Cheredigion yn achlysuron cofiadwy ar lawer ystyr. Ym 1977 oedd y cyntaf o'r teithiau hyn, ag un nodwedd oedd cymharu y tê festri a gafwyd yma ac acw! Rydym oll yn arbenigwyr ar frechdanau ëy a bara brith bellach! Ar y cychwyn aros mewn hosteli myfyrwyr ym Mangor, Wrecsam, Aberystwyth a Harlech oedd y dewis ond erbyn wrth barchuso mae'r côr wedi dewis aros mewn gwestai moethus.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dros y blynyddoedd hefyd cafwyd cyngherddau pryd y bu'r côr yn perfformio rhai o glasuron lleisiol y cyfansoddwyr enwocaf. Ymhlith y gweithiau hyn mae'r Gloria, Vivaldi yn Efail Isaf, y perfformiad o Requiem Mozart yn Eglwys Gadeiriol Anghydffurfiaeth Cymru, sef Tabernacl Treforus, gweithiau haydn yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a'n cyflwyniad o'r Meseia yn Nhabernacl, Tonypandy, pryd y bu i'r hen gapel ddiasbedain unwaith eto i Gôr o leisiau Cymraeg.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Capel Gosen, Trefor Taith y Pasg 1985
|
|
|
|
|
|