|
Roedd Neuadd Efail Isaf dan ei sang er ei bod rywle o gwmpas dau o'r gloch y bore a'r Eisteddfod leol yn tynnu at ei huchafbwynt gyda chystadleuaeth y corau. Pedwar côr i ganu - oll o ymddangosiad glân a thaclus yn eu gwisgoedd hardd. Wel efallai fod aelodau dau o'r corau, hytrach yn llai un-ffurf eu gwisg na'r ddau arall, ond chwarae teg iddyn nhw am grynhoi ynghyd ryw wythnos ynghynt er mwyn cefnogi'r Eisteddfod newydd. Ond yn oriau mân y bore Sul hwnnw ddechrau Mawrth 1974 gwelodd amryw ohonom eni Côr Godre'r Garth. Ail gafodd un o'r corau newydd sbon, - 'Côr y Tabernacl', ond ail gythgam o glos, a rhoddwyd ysgytwad enbyd i un o gorau mwyaf adnabyddus yr ardal. Daeth y côr 'newydd' arall, -Côr y Llan', yn drydydd parchus iawn. Roedd yn amlwg fod yma gnewyllyn addawol. Y canlyniad fu i'r ddau gôr newydd uno i greu un côr cymysg sylweddol - gyda phobl o'r Rhondda, Ynysybwl a Phontypridd yn uno â phobol o Donteg, Efail Isaf, Llanilltud Faerdref a Phentre'r Eglwys. Ymysg aelodau'r côr a fedyddiwyd wedyn yn Gôr Godre'r Garth, yr oedd gwr o natur a thueddiadau anarferol o unbenaethol. Heb ymghynghori â neb, llenwodd y ffurflen gais ar gyfer Cystadleuaeth y Corau Gweldig a Chapel yn Eisteddfod Bro Myrddin.Hen hanes yw'r ffaith mai Côr Godre'r Garth enillodd y gystadleuaeth honno.
GWYN GRIFFITHS (o glawr record y côr).
|
|