|
I ddechrau yn y dechrau, mae'n rhaid mynd nôl at ddiwedd y chwedegau pan ddaeth nifer o Gymry ifanc i'r ardal, gan gynnwys ymhlith eraill, un Wil Morus Jones o bentre' glan môr Trefor. Ar y pryd yr unig gyrchfan i Gymry'r ardal oedd Cymdeithas Gymraeg Pontypridd, sefydliad eitha ffurfiol oedd yn cyfarfod ar Nos Fercher. Ond cafwyd hwb sylweddol i weithgareddau Cymreig a Chymraeg ardal Pontypridd gyda'r penderfyniad yn 1971 i wahodd Prifwyl yr Urdd i'r dref ym 1973. Tua'r un pryd sefydlwyd Aelwyd yr Urdd a fu'n cyfarfod yn Ysgol Graig y Wion, ac ymhlith gweithgareddau'r Aelwyd roedd yna gôr cymysg dan arweiniad Wil. Rhywbeth arall dyfodd allan o fwrlwm Cymraeg yr ardal ar ddechrau'r saithdegau oedd Eisteddfod Gadeiriol Cylch Godre'r Garth - nid ryw dipyn o Eisteddfod leol, cofiwch, ond eisteddfod go iawn, gyda Gorsedd a'r holl seremoniau a
|
|