|
Swyn y gân sy'n ugeinoed; Gwenu Wil sy'n ugain oed! Ugain oed ein geni'n un, Ugain oed gwin ein nodyn; Ugain haf o gân a hwyl, O rannu ein côr annwyl; Ugain haf o greu afiaith, Ugain haf egnïo'n hiaith.
Llywio wna Wil yn llawen Yr holl gôr â llaw a gwên; Rhin a swyn y darnau sy' Yn ei wyneb yn canu; Arweinydd sy'n rhoi'i hunan Y doniau i gyd yn y gân; Rhoi ei oll i'r côr o raid, Yn arweinydd o'r enaid.
Un o fil yw'n cyfeilydd; Yn nawnsio hon, awen sydd; Bysedd melfed yn rhedeg Yn esmwyth fel tylwyth teg Hyd y nodau yn hudol, Hefo rhyw wefr ar eu hôl; Mae'n rhoi â llam heini'r llaw Ei hathrylith i'r alaw.
Ninnau'n un, canwn i Wil Â'n canu grymus, cynnil; Canwn nes bod acenion Nwyf yr iaith hyd y fro hon; Noddi'r iaith â'n hafiaith ím, Cenhadu drwy'n cân ydym; Y gân hoff ers ugain ha', - Canwn, seiniwn Hosanna!
Rhys Dafis.
|
|