|
|
|
|
|
|
Sefydlwyd y Côr er mwyn hybu Cymreictod yn yr ardal. Cynhelir holl weithgareddau'r côr drwy'r Gymraeg ac fe ddenodd y côr llu o ddysgwyr i loywi iaith. Un ffaith ddiddorol am adfywiad y Gymraeg yn yr ardal - fe gyflwynwyd Medal Aur Clogau ar dri achlysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r tair gwaith daeth y Fedal i Daf Elái. Yn gyntaf i Wil yn 1985. Yna i Alwena Roberts a Merched y Garth yn 1986 ac yna i Eirlys Britton, hyfforddwraig Dawnswyr Nantgarw yn 1987. Ond pan aeth Côr Godre'r Garth drwodd i rownd cyn-derfynol Cystadleuaeth Sainsbury's, un o brif gystadlaethau corawl yr ynysoedd hyn, siomwyd llawer ohonom i glywed sylwadau dirmygus un o'r beirniaid, Peter Skellern, ynglyn â'r ffaith ein bod ni'n canu yn Gymraeg gan amlygu hen ragfarn afiach, a ddylanwadodd, mae'n siwr ar y canlyniad. ...Ac o gofio y datblygiadau calonogol diweddar yn Ne Affrica pwy, a oedd yno, gall anghofio ymweliadau James Phillips, cyfaill mynwesol Nelson Mandela, pan oedd cynlluniau ar y gweill i gyfrannu at record i gefnogi'r A.N.C.? Roedd ei frwdfrydedd ynglyn â cherddoriaeth bywiog yn esiampl unigryw i ni, etifeddion y traddodiad corawl Cymreig, a thristwch o'r mwya oedd clywed am ei farwolaeth ddisymwyth rhai misoedd ar ôl ei ymweliadau â Phontypridd.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae na hen ddywediad sy'n awgrymu "os am gyflawni rhywbeth, gofynnwch i ddyn prysur". Wedi i Gôr Godre'r Garth fod mewn bodolaeth am ugain mlynedd mae gennym le i ddiolch i'r pobl diwyd hynny sydd wedi bod yn brysur yn sicrhau fod popeth yn rhedeg yn hwylus dros y blynyddoedd - yr holl gadeiryddion, ac yn arbennig yr ysgrifenyddion - Mered, Bobi (am 12 mlynedd), Elgan a Penri - ar eu hysgwyddau y syrthiodd y baich o drefnu gymaint ar ran y cor.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ond cerddoriaeth yw hanfod y côr wedi'r cyfan, a mawr yw ein dyled i'r ddeuawd sydd wedi cynnal y côr ers cyhyd. Mae Margaret wedi cyfeilio i'r côr yn ddi-dor ers 1978, Mae Wil wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn arweinydd ar griw digon anystywallt ar brydiau ond bu'n benderfynol o gael y gorau o bob aelod o'r côr. Iddo fo, "pan una'r holl gantorion" - aelodau presennol a chyn-aelodau Côr Godre'r Garth - ar achlysur dathlu ugeinfed penblwydd y côr, y mae'r pennaf ddiolch.
|
|
|
|
|
|