< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >

Yn ogystal â'r darllediadau teledu blynyddol o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol bu'r côr yn ymddangos yn gyson ar y teledu a rhoddwyd datganiadau a chyfweliadau ar y radio.
   Yn 1976 roedd criw teledu rhyngwladol yn cynhyrchu rhaglen ddogfen ar Gymru ac ar ddydd Sadwrn olaf Eisteddfod Aberteifi dilynodd y criw y côr drwy'r Gystadleuaeth Corau Gwledig ac yna dangos y poeni yn ystod y feirniadaeth a'r gorfoledd wrth gael y dyfarniad. Yna ffilmio'r dathlu draw yn Poppitt y noson honno.   
   Am gyfnod yn y saithdegau roedd y côr i'w glywed bron bob nos Sul ar Radio Abertawe. Roedd trigolion Cwm Tawe wedi gwirioni ar ddatganiad y côr o
Bantyfedwen ar y record gyntaf.
   Yn 1980 gofynnwyd i'r côr gymeryd rhan yng nghyfres deledu Rhaglen Hywel Gwynfryn ac am chwe phrynhawn Sul yn olynol teithiodd y côr i lawr i Stacey Road, Caerdydd. Daeth Hywel Gwynfryn i ardal Pontypridd yn 1986 i ymweld â'r côr a gweithgareddau Cymraeg yr ardal.
   Mae'r côr wedi ymddangos yn gyson ar
Dechrau Canu, Dechrau Canmol o Gapel Tabernacl, Efail Isaf, Eglwys Dewi Sant, Caerdydd o o Fargoed. Yn wahanol i'r arfer aeth y rhaglen allan i'r awyr agored yn yr Wyl Erddi yng Nglyn Ebwy. Doedd yr achlysur ddim heb ei broblemau gyda gwisgoedd y merched yn cael eu chwythu i bob cyfeiriad!
   Achlysur Nadoligaidd oedd ymddangosiad y côr ar
Teulu Ffôn yn 1983 a Handel yn y tenoriaid yn dathlu

ei benblwydd ar y rhaglen. Yn Hydref 1984 roedd y côr ar y teledu bron bob wythnos gyda rowndiau gwahanol Cystadleuaeth Sainsbury's ar BBC Cymru a BBC 2. Uchafbwynt y gystadleuaeth i lawer oedd teimlo'r awyrgylch hwyliog yn Neuadd Dewi Sant cyn dyfarniad y beirniaid  a'r corau i gyd yn ymuno i ganu Cwm Rhondda. Ar ddechrau 1988 darlledwyd datganiad y côr yng Ngëyl Gorawl Corwen.
   Darlledwyd nifer o raglenni gan S4C yn cynnwys
Emynwyr, Ar Eich Cais yn 1986, Teulu'r Tir yn 1991 a Chyngerdd o Eisteddfod yr Urdd Taf Elái yn 1991. Ond y fraint fwayf oedd cael ymddangos ar Canwn Moliannwn yn 1990 gyda Bryn Terfel. Fe ail-ddarlledwyd y rhaglen mwy nag unwaith.

   Ar y radio bu'r côr yn canu carolau ar Caniadaeth y Cysegr gyda Alan Pickard, aelod o'r côr yn cyflwyno a Margaret Roberts yn dangos ei dawn fel Organyddes yn ogystal â phianydd. Daeth criw y Gwasanaeth Boreol i recordio'r côr yn canu nifer o emynau i gael lleisiau mwy ifanc ar y rhaglen.
   Mae'n bosib fod y radio yn gallu treiddio'n ddyfnach i galon pwnc ac roedd ymweliad Gari Williams yn 1982 yn adlewyrchiad hyfryd o fywyd y côr. Cafwyd cyfweliadau â Wil yn gyson ar y radio. Mewn cyfweliad diweddar gyda Hywel Gwynfryn cafwyd ateb di-ymhongar iawn gan Wil i'r cwestiwn - "Ai chi sefydlodd Côr Godre'r Garth?" - "Wel, rhyw griw bach ohonon ni".

14

Tudalen Nesaf >