Côr Godre'r garth
Cor

 

 

 

Cyngerdd 18 Rhagfyr 2016

 

Cyngerdd Rhuthun 3 Rhagfyr

Gosport Hydref 2016
Cyngerdd yn Gosport Medi 2016

Cyngerdd Y Fenni
Cyngerdd Y Fenni 7 Mai 2016

Cyngerdd Y Fenni 2016

Cyngerdd Llantrisant

Cyngerd Llantrisant 15 Ebrill 2016

Cyngerdd Nadolig 2015
Cyngerdd Nadolig 2015 gyda Côr y Cwm

Cyngerdd Nadolig 2015

Cyngerdd Nadolig

Eisteddfod 2015
Trydydd yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2015

Cyngerdd dathlu 40
Cyngerdd Dathlu 40 - noson arbennig ar 6 Rhagfyr 2014

Cyngerdd Nadolig 2014

Côr Godre’r Garth yn croesawu’r deugain . . . ac arweinydd newydd

Bydd Côr Godre’r Garth, côr cymysg o ardal Pontypridd, yn dathlu 40 Mlwyddiant gyda chyngerdd fawreddog ar nos Sadwrn 6ed Rhagfyr, a hynny dan faton eu harweinydd newydd, Steffan Huw Watkins ynghyd â chyn-arweinwyr y Côr.

Cynhelir y gyngerdd yn Eglwys St Catherine’s yn y dref am 7.30pm a bydd y Côr yn perfformio gwaith Vivaldi, Gloria ynghyd â datganiad o waith newydd, Glan Rhondda a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y gyngerdd gan Eilir Owen-Griffiths a fu’n arwain y Côr am dros ddegawd tan iddo drosglwyddo'r awenau i Steffan eleni. Bydd Gareth Williams, aelod presennol ac is-arweinydd y Côr hefyd yn  ymuno gydag Wil Morus Jones, sylfaenydd ac arweinydd cyntaf Côr Godre’r Garth yn 1974 i arwain rhaglen o gerddoriaeth gyfarwydd o Gymru.

Yn ymuno â’r Côr ar y noson bydd yr unawdwyr Menna Cazel Davies, Olivia Gomez, Hannah Owen-Griffiths a Cherddorfa Sesiwn Cymru.

Cynhelir Cyngerdd Dathlu 40 Mlwyddiant Côr Godre’r Garth, Sadwrn 6 Rhagfyr, Eglwys St Catherine, Pontypridd, 7.30pm. 

Pris y tocynnau yw £12 (£10 i blant a phensiynwyr) - cysylltwch â 07837 007 076 neu corgodrergarth@gmail.com

 

Cyngerdd Nadolig

 

Sefydlwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 er mwyn denu pobl o’r un anian i ddod ynghyd er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn ardal Pontypridd. Erbyn hyn mae gan Gôr Godre’r Garth dros 65 o aelodau gydag ystod oedran o 16 i dros 70.

Ers bron i ddeugain mlynedd mae’r côr wedi blasu pob math o brofiadau a llwyddiannau ac wedi teithio i bedwar ban byd. Am wyth mlynedd ar hugain bu hynny dan arweiniad meistrolgar Wil Morus Jones, a lwyddodd i sefydlu côr a ddaeth i’r brig o’r cychwyn cyntaf. Wedi ymddeoliad Wil, trosglwyddwyd yr awenau dros dro i Gareth Williams, is-arweinydd dihafal y côr, cyn i Eilir Owen Griffiths, un o gerddorion cyfoes mwyaf heintus a deinamig Cymru ymuno fel arweinydd yn 2003 hyd 2014 pan drosglwyddodd yr awenau i gerddor dawnus ac addawol arall, Steffan Huw Watkins.

Yn gefn i’r holl Gôr mae’r cyfeilydd amryddawn, Branwen Evans ac nid oes pall ar ei thalent gerddorol ar y piano. Un o uchafbwyntiau’r calendr cystadlu yw’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn ystod y degawd diwethaf mae’r côr wedi bod yn fuddugol sawl gwaith ar y gystadleuaeth i gorau dros 45 mewn nifer. Cafwyd llwyddiant hefyd dros Glawdd Offa wrth i’r côr ddod yn geffyl blaen yng Ngŵyl Gerddorol Cheltenham 2011 a chipio’r Cwpan Aur fel Côr yr Ŵyl.

 

 

CD 2011

 

 



 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Garth