< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >

Hel clecs yn
Hostel y myfyrwyr
Ar Daith y Gogledd

Dychwelyd ar fws o
Gyngerdd ym
mherfeddion nos

Pan ddaw grwp o Gymry ifanc hwyliog at ei gilydd, mae'n anochel fod yna hwyl a miri i ddilyn. Mae nifer o garwriaethau a phriodasau yn deillio o gymdeithas gynnes  a chlos y côr. Un enghraifft oedd y daith i Wlad Belg a fu'n gryn lwyddiant i un aelod o'r côr gan i Gwenno 'ail gynnau tân ar hen aelwyd' gyda Pol; maent nawr yn briod! Dros y blynyddoedd bu digwyddiadau di-ri o bob math a dyma rai ohonynt.
 
 ...Y côr yn ymarfer yn Llandudoch adeg Gwyl Aberteifi a thra'n  cael tê ar lan yr afon a siarad gyda'r pysgotwyr lleol gawsom gynnig 'cruise' lan yr afon i gei Aberteifi. Y llongau ar fin cychwyn pan sylweddolwyd nad oedd Mered, yr Ysgrifennydd gyda'r criw. Hwnnw'n rhuthro lawr y jeti, ond wrth gyrraedd y gwaelod sylweddolodd nad oedd gobaith stopio mewn pryd oherwydd fod y jetti yn llithrig. Doedd dim amdani ond gafael yn y polyn ar y gwaelod a throi o'i gwmpas gan adael i gopiau a dogfennau'r cor hedfan o'i ddwylo i ganol yr Afon Teifi.
   ...nôl piano ar gefn lori lo i'r oergell o neuadd yn Rhoshirwaun ym Mhen Llyn yn ystod taith y Pasg 1983.
   ...Bysiau'n torri i lawr mewn llefydd cyfleus ac anghyfleus - Y cor ar fin gadael tafarn yn Llangadog ar ôl cyngerdd llwyddianus yno ond y bws ddim yn cychwyn. Doedd dim amdani ond mynd nôl i'r dafarn ac aros am fws arall. Yn y dyddiau pan oedd bws 'pop a chrisps  yn ogystal a bws 'joio', torrodd y bws pop a chrisps lawr ar y ffordd yn ôl o Eisteddfod Pontrhydfendigaid, gan gyrraedd yn ôl i Bontypridd oriau lawer ar ôl y bws joio. Bws arall yn torri i lawr ar Fwlch yr Oernant ar ddechrau Taith y

Pasg 1989, a'r côr yn cael seibiant difyr yn nhafarn y Cross Foxes gan golli'r cyngerdd yng Nghricieth! A trên fach Ffestiniog yn torri i lawr gan adael y côr heb fws na thrên yn canu ar blatfform Ffestiniog, hwythau i fod yn Abersoch o fewn yr awr.
   ...Bu tarfu ar berfformiadau'r côr mewn dwy brifwyl yn olynol: yn Aberteifi roedd rhywun yn pwnio tô yr hen bafiliwn gan beri i'r côr dorri ar eu perfformiad, tra yn Wrecsam aeth diffoddwr tân i ffwrdd pan oedd y côr ar gychwyn perfformio!
 
 ...Mellten yn tasgu ar y llwyfan o flaen Wil wrth arwain cyngerdd yn yr awyr agored yng Ngharnac.
   ...Mellt, taranau a chenllysg yn byrlymu o gwmpas capel yn Rhosllanerchrhugog pan oedd Huw T. yn ei morio hi trwy ba gan? - Y Dymestl wrth gwrs!
   Roedd gan Wil gryn gystadleuaeth yng nghôr Eisteddfod Cwm Rhymni ym mherson y cadfridog llwyfannu, "General Wyndham"; roedd natur awdurdodol y brawd yma yn gwneud i'n

hannwyl Eric ymddangos fel athro swil ar ei ymarfer dysgu cynta!!!
   Gan gofio fod y côr ar y cyfan yn griw digon hawddgar ac anffurfiol, mae'r testun o wisg y côr wedi bod yn bwnc llosg ar sawl achlysur. Wrth edrych ar luniau o'r côr yn y dyddiau cynnar fe welir rhywfath o fwclis anhygoel sy'n amlygiad perffaith o eithafion mwyaf 'naff' y saithdegau; cyfrinach i Wil a rhai o bwyllgor y côr hyd heddiw yw'r gwybodaeth mai ryw 'job-lot' oedd yn cael eu taflu allan o gasgliad 'props' y BBC oedd y cadachau brawychus hyn! Ond nid y merched sydd wedi creu'r helynt am wisgoedd; pwy tybed oedd y baswr a aeth ymlaen hyd at syrffed wrth gwyno ein bod yn troi'n gôr bourgeois wrth fabwysiadu ein DJ's presennol. Mae'r ateb yn y llythrennau!
  ...A'r gair olaf i Geraint Davies a fu mor ddewr a gwneud Naid Parasiwt Noddedig tuag at Gronfa Taith Moosburg y Côr. Ei
eiriau cyntaf ar ôl cyrraedd y ddaear - "Bendigedig".

12

Tudalen Nesaf >