Eilir Owen Griffiths
Mae Eilir Owen Griffiths wedi bod yn arwain Côr Godre’r Garth ers 2002. Heblaw am Godre’r Garth, mae hefyd yn arwain Côr CF1 a Chôr y Drindod.
Mae’n Diwtor Cerdd a Threfnydd Diwylliannol yng Ngholeg y Drindod, ac mae hefyd yn Gyfarfwyddwr Artistig Gŵyl Ddiwylliannol y Drindod, sydd â Gwobr Stuart Burrows yn ganolbwynt i’r Ŵyl. Ym mis Mehefin, arweiniodd ei dri chôr mewn perfformiad arbennig yno i ddathlu statws newydd Prifysgol y Drindod.
Yn gyn-fyfyriwr Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau yn y Drindod, aeth Eilir ymlaen i astudio ymhellach yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a derbyn MMus mewn cyfansoddi. Mae wedi denu tipyn o sylw gyda’i gyfansoddiadau, gan ennill nifer o wobrau, ac yn 2008 enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Gyda Chôr Godre'r Garth mae Eilir wedi ennill y Gystadleuaeth i Gorau Cymysg dros 45 o leisiau yn 2004, 2005, 2006, 2007 a 2009. Wrth i Godre’r Garth ennill yn y Bala eleni, Eilir oedd y cyntaf i ennill Medal Goffa Morfydd Vaughan Evans ar gyfer arweinydd y côr buddugol. Mae Eilir eisoes wedi sefydlu’i hunan fel un o arweinwyr mwyaf deinamig Cymru ac mae wedi ennill nifer o’r prif wobrau corawl gyda’i amrywiol gorau. Mae Eilir hefyd wedi arwain Cerddorfa Siambr Cymru, mae’n cyfrannu’n gyson at gyngherddau a digwyddiadau cerddorol ledled Prydain. Mae ei recordiadau’n cynnwys Côr CF1 (Sain) ac Y Gair (Kissan).
|